Bob dydd mae 42,300 o gerbydau yn defnyddio'r ddwy bont dros y Fenai, gan gysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru. Dyma’r unig lwybr ffordd ar ac oddi ar yr ynys, ac yn achubiaeth i’r bobl sy’n dibynnu arnynt.

Achosodd cau Pont y Fenai dros dro ar gyfer gwaith atgyweirio y llynedd anhrefn traffig a phoen economaidd i bobl a busnesau yng ngogledd-orllewin Cymru.

Ond mae yna ateb: mae trydedd bont dros y Fenai wedi ei gynllunio ers blynyddoedd. Ond ym mis Chwefror fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cael gwared ar yr holl brosiectau ffyrdd mawr ar sail hinsawdd.

Mae’n amlwg bod angen trydedd bont dros y Fenai ar y wlad. Mae angen i bobl sy'n byw ar Ynys Môn fod yn hyderus y gallant fynd ar ac oddi ar yr ynys pan fo angen.

Mae trydedd groesfan hefyd yn hanfodol ar gyfer sicrhau gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa ac ar gyfer helpu porthladd Caergybi i dyfu. Mae'r groesfan yn brosiect o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn hanfodol ar gyfer sicrhau swyddi newydd a thwf economaidd.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ollwng ei gwaharddiad ar brosiectau ffyrdd newydd, ail-ymrwymo i adeiladu trydedd bont dros y Fenai, a gweithio’n uniongyrchol gyda’r Llywodraeth yn San Steffan i sicrhau’r cyllid angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

Arwyddo Ein Deiseb a dywedwch wrth llywodraeth Gymru i cefnogi y drydedd bont dros y fenai.

1,780 signed so far.

Add your name now.

Sign the Petition Today

*
*
*
*

By signing up to this petition you agree to be sent updates on its progress.

Britain Remade is a campaign for economic growth that aims to get Britain back to what it's good at. While adding your name to this petition you will also be added to our supporter list for further campaign updates. You will be able to unsubscribe from this at any point.

Share via