ADEILADU TRYDEDD BONT Y FENAI
Bob dydd mae 42,300 o gerbydau yn defnyddio'r ddwy bont dros y Fenai, gan gysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru.
Achosodd cau Pont y Fenai dros dro ar gyfer gwaith atgyweirio y llynedd anhrefn traffig a phoen economaidd i bobl a busnesau yng ngogledd-orllewin Cymru.
Mae un peth yn glir: mae angen mawr am drydedd bont dros y Fenai.
Bu sôn am bont newydd ers blynyddoedd, ond ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cael gwared ar yr holl brosiectau ffyrdd mawr. Mae hyn er gwaethaf eu rhagfynegiadau y bydd y nifer o gerbydau sy'n defnyddio'r bont yn parhau i gynyddu.
Mae angen i lywodraethau yng Nghaerdydd ac yng San Steffan gydweithio ac ymrwymo i adeiladu Trydedd Bont y Fenai.